top of page

Hanes

Mae Enlli yn nodedig fel cyrchfan pererinion ers dyddiau cynnar Cristnogaeth, ond mae olion aneddiadau ar yr ynys yn dyddio o gyfnod cyn Crist.

Hanes cynnar

Daeth yn fan pwysig i’r Eglwys Gristnogol Geltaidd gan ddenu mynaich defodol, a chredir mai Sant Cadfan a ddechreuodd adeiladu’r mynachdy yn y chweched ganrif.

 

Gwelir adfeilion Abaty Awstinaidd y Santes Fair, a adeiladwyd ar yr ynys yn y drydedd ganrif ar ddeg, hyd y dydd heddiw. Defnyddid y mynachdy hyd gyfnod Diddymu’r Mynachlogydd ym 1537. Wedi hyn gadawyd Enlli i’r môrladron nes sefydlwyd cymuned o amaethwyr a physgotwyr yng nghanol y ddeunawfed ganrif, â'r ynys yn eiddo i'r Arglwydd Niwbwrch. Mae’r cyfeiriad adnabyddus at yr ynys fel man claddu ugain mil o seintiau yn dyddio o ddyddiau cynnar y canol oesoedd, a dywedid bryd hynny bod tair pererindod i Enlli gyfwerth ag un pererindod i Rufain.

Darllenwch mwy am hanes cynnar Enlli yma. 

Goleudy Enlli

Cwblhawyd y goleudy 30 metr – y goleudy talaf yn y DU gyda thŵr sgwâr – ym 1821. Rheolir y goleudy gan Trinity House ac yn 2014 newidiwyd y golau o brism gwydr ar sylfaen mercwri i gyfres o oleuadau coch LED. Bellach defnyddir ynni solar i gynnal golau'r goleudy. 

Brenin Enlli

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, roedd poblogaeth yr ynys oddeutu 100. Ym 1925 arweiniwyd y rhan fwyaf o'r trigolion oedd yn dal i fyw ar yr ynys i’r tir mawr gan Frenin Enlli, Love Pritchard (rhoddwyd y teitl i arweinwyr cymunedol gan yr Arglwydd Niwbwrch) i chwilio am ffordd llai llafurus o fyw. Yn fuan wedyn, daeth pobl i'r ynys o'r newydd i wneud bywoliaeth drwy amaethu a physgota yn bennaf.

 

I ddysgu mwy am frenhinoedd Enlli ewch yma

Arglwydd Niwbwrch ac adeiladau'r 19eg ganrif

Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r tai a saif heddiw gan y tirfeddiannwr, yr Arglwydd Niwbwrch, yn yr 1870au. Yr eithriad yw Carreg Bach sy’n nodweddiadol, mae’n debyg, o’r tai ar yr ynys cyn yr adeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd capel anghydffurfiol newydd yr un pryd.

Gwylfa Adar a Maes Ynys Enlli

Sefydlwyd yr Wylfa Adar a Maes ym 1953 er mwyn monitro bywyd gwyllt yr ynys, gyda chymorth nifer o gefnogwyr o Gymru a Phrydain Fawr. Mae'r Wylfa wedi ei lleoli yng Nghristin ers y cychwyn ac mae'n parhau yn aelod gweithgar o'r Cyngor Gwylfaoedd Adar. Mae llyfryn gwybodaeth am flynyddoedd cynnar yr Wylfa wedi ei gyhoeddi'n ddiweddar ac mae ar werth ar yr ynys. 

 

I ddarllen mwy am Wylfa Adar a Maes Enlli cliciwch yma.

 

Ymddiriedolaeth Ynys Enlli

Ym 1978 rhoddwyd ymgyrch ar waith i brynu'r ynys. Y perchennog ar y pryd oedd yr Anrhydeddus Michael Pearson (Arglwydd Cowdray). Arweiniwyd yr ymgyrch gan bobl brwdfrydig ledled Prydain ac fe'i cefnogwyd gan nifer o Gymry amlwg, er enghraifft R S Thomas a William Condry, yn ogystal â'r Eglwys yng Nghymru. Prynwyd yr ynys ym 1979. Elusen ydy'r Ymddiriedolaeth ac mae modd ymaelodi â hi i gefnogi'r ynys. 

I ddysgu mwy am waith Ymddiriedolaeth Ynys Enlli cliciwch yma. 

bottom of page