top of page

Gwybodaeth Hanfodol

Cewch wybodaeth yma am bopeth sy'n ymwneud â'ch gwyliau yn Enlli. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r ynys. 

Mae’r wythnos rentu o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn, Ebrill - Hydref. Nid yw'r tai ar gael yn y gaeaf gan nad yw'n bosib i'r cwch redeg yn reolaidd, ac mae'r tai yn anaddas i aros ynddynt yn y gaeaf. 

 

Mae rhywfaint o wyliau byr ar gael, am 3 noson neu 4 noson. Rhaid cyrraedd ar ddydd Sadwrn, neu gyrraedd canol wythnos a gadael ar ddydd Sadwrn. Cysylltwch â ni am brisiau.

Mae angen blaendal o 50% i gadarnhau eich archeb.

Rhaid talu'r gweddill 12 wythnos cyn dechrau eich gwyliau.

Gellir archebu trwy gwblhau'r ffurflen archebu yma.
 (Gofynnwn yn garedig i chi beidio ceisio archebu gwyliau drwy anfon neges testun, Whatsapp neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol, gan nad yw'r negeseuon yma yn cael eu darllen yn reolaidd.

Sylwer: Fferm yw Ynys Enlli, gyda gwartheg a defaid yn pori yn y caeau ger tai a llwybrau. Ystyriwch hyn wrth archebu.

Croesi i Enlli

Mae cost y cwch yn ychwanegol i brisiau’r tai ac mae'r gwasanaeth cwch o Borth Meudwy yng ngofal cwmni Mordaith Llŷn.

www.bardseyboattrips.com.

 

£60 yw'r gost yn 2024, mae'r pris yr un fath i oedolion, plant a babanod. Fe'ch cynghorir i wisgo dillad glaw ar gyfer y croesi. Os bydd y tywydd yn caniatáu, mae ymwelwyr am yr wythnos yn croesi ar ddyddiau Sadwrn o Borth Meudwy (ger Aberdaron). Os bydd y croesi’n cael ei ohirio oherwydd y tywydd, byddwch yn croesi ar y diwrnod braf cyntaf canlynol.


Mae'r broses o gludo teithwyr a bagiau i ac o'r ynys yn eithaf cymhleth ac yn galw am amynedd a dealltwriaeth.

 

Paciwch popeth mewn bocsys a bagiau bychain, sydd wedi eu selio. Cofiwch fod rhaid codi'r bagiau i mewn ac allan ô'r cwch.

A fyddech gystal â gwirio’r trefniadau cwch cyn eich ymweliad drwy ffonio 
07971 769895 ar y noson cyn croesi. Wrth wneud hyn, cewch fanylion eich amser chi i groesi. Ffoniwch ar ôl 6.30 yr hwyr os gwelwch yn dda.

Byddwch yn cael gwybod pryd i gyrraedd Cwrt a Phorth Meudwy a dylech gadarnhau'r nifer o bobl sydd yn eich grŵp neu deulu.

Parcio

 

Gellir parcio ceir ar risg y perchennog yn fferm Cwrt am ffi o £20 yr wythnos. Mae'r tâl yn daladwy i'r ffermwr, G Roberts pan fyddwch yn cyrraedd. Bydd rhywun yn eich cyfarfod ym maes parcio fferm Cwrt ac yn cludo eich bagiau i'r cwch; mae gwaith deng munud o gerdded i'r bae o'r fferm. Efallai y bydd rhaid i chi aros ar y traeth am beth amser cyn i chi allu croesi. Gan nad oes unrhyw le i chi gysgodi ym Mhorth Meudwy, dylech sicrhau fod gennych ddillad glaw a rhywfaint o fwyd a diod.

Bydd y croesi’n cymryd tua 20 munud. Os yn bosibl, dylai ymwelwyr helpu i lwytho a dadlwytho’r cwch.


Côd post Satnav ar gyfer fferm Cwrt yw LL53 8DA - cliciwch yma i weld y map. Mae rhai systemau satnav yn mynd a chi heibio Cwrt, felly edrychwch allan amdano ar yr ochr dde. Mae llechen "Cwrt" i weld ym mhostyn y giât. Os byddwch yn cyrraedd safle Cwrt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydych wedi mynd yn rhy bell, ewch yn ôl i'r giât flaenorol. 

Nid oes toiled yn y maes parcio, mae rhai cyhoeddus ym mhentref Aberdaron. 

Manylion bws i Uwchmynydd - yma


Dyma dudalen flaen cludiant cyhoeddus Cyngor Gwynedd - yma

Mae Bws Arfordir Llŷn hefyd yn cynnig gwasanaeth.

enlli pasg 2015.jpg
Manylion Llety

Rydym yn cynnig llety hunan-arlwyo sylfaenol. Nid oes trydan yn y tai ac fe ddefnyddir lampau amrywiol i'w goleuo. Oherwydd rheoliadau iechyd a diogelwch, ni chaniateir defnyddio canhwyllau na "tea lights".


Er nad ydynt yn foethus, mae’r tai wedi eu dodrefnu'n gyfforddus. Yn y gegin mae popty nwy, oergell/rhewgell (oergell llai mewn tai sy'n cysgu 2, gyda blwch rhewi bach), ac offer arlwyo digonol ar gyfer y nifer o breswylwyr a ganiateir ym mhob eiddo.


Fe ddarperir llestri, hylif golchi llestri, papur toiled ac offer glanhau tŷ.

Mae tawelwch Enlli yn un o brif resymau mae pobl yn dod i aros yma. Gofynnwn felly i’n holl ymwelwyr barchu hyn a chadw mor ddistaw ag sy’n bosib, enwedig yn ystod oriau’r nos rhwng 10yh ac 8yb.

Anifeiliaid anwes: Ni chaniateir anifeiliaid anwes ar Ynys Enlli.

Niferoed Mewn Llety

Ni chaiff nifer yn aros yn y llety, mewn unrhyw amgylchiadau, fod yn fwy na'r uchafswm a nodir ar ein gwefan. Nid yw babanod o dan 2 oed sy'n cysgu mewn crud yn cael eu cyfrif yn yr uchafswm (ac eithrio Carreg Bach, sy'n anaddas i fabanod). Rydym â’r hawl i wrthod mynediad os na ddilynir yr amod hwn. 

Gwres

Lleolir stôf aml-danwydd yn ystafell fyw rhan fwyaf o’r tai. Os ydych yn dymuno’i thanio bydd cyflenwad o danwydd wedi ei leoli yn y tŷ i chi. Os byddwch angen mwy, mae posib ei brynu gan y Wardeniaid. Gofynnir i chi beidio â llosgi broc môr oherwydd mae’r halen yn niweidio leinin y simnai.

Sylwch: gall y tai sydd heb le tân fod yn oer yn ystod tywydd garw.

Babanod

Mae cot a chadair uchel ar gael drwy drefniant ymlaen llaw heb unrhyw gost ychwanegol.

cegin ty nesaf.jpg
Toiled Compost

Nid oes ystafell ymolchi yn y tai. Lleolir toiled compostio y tu allan i bob tŷ, yn yr ardd ran amlaf, er fod tŷ bach Llofft Plas tu mewn. Nodwch mai eich cyfrifoldeb chi yw gwagio eich bwced toiled eich hunain. Mae safle gwaredu ar gyfer pob tŷ.

Glanhau ac Ysbwriel

Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn gweithredu polisi hunanlanhau yn y tai, hynny yw, nid ydym yn codi tâl am lanhau, ond rydym yn gofyn i’n holl westeion adael y tŷ mewn cyflwr glân a thaclus yn barod ar gyfer y gwesteion nesaf.
Rydym hefyd yn gofyn i westeion fynd â’u holl sbwriel a’u heitemau i’w hailgylchu yn ôl gyda nhw. Gosodir biniau ailgylchu wrth y fynedfa i fferm Cwrt ar y tir mawr.

 

 

Dŵr
Mae gan bob tŷ gyflenwad o ddŵr oer o ffynnon. Dylech fod yn ymwybodol bod dŵr yn brin yma a rhaid ei ddefnyddio'n ofalus ac yn gynnil.

Diweddarwyd y dudalen hon: Ebrill 2024

Canslo neu newid eich gwyliau

Unwaith y byddwch wedi talu eich blaendal neu daliad llawn, ni allwn wneud ad-daliad os byddwch yn canslo. Os oes rhaid i chi ganslo eich archeb, byddwn yn gwneud pob ymdrech i ailosod eich llety. Os byddwn yn llwyddiannus, byddwn yn fodlon ad-dalu eich taliad ond yn cymryd tâl o £100 ohono  am  gostau gweinyddu. Fodd bynnag, os na allwn ail-osod eich llety ni fyddwn yn gallu rhoi ad-daliad i chi.

 

Os oes rhaid i chi ganslo neu ohirio eich ymweliad ag Enlli am unrhyw reswm gan gynnwys tywydd garw, nid yw Ymddiriedolaeth Ynys Enlli Cyf yn atebol am golled o dan unrhyw amgylchiadau.

 

Os ydych yn dymuno gwneud newidiadau i'ch archeb e.e. newid y dyddiad neu lety, codir ffi weinyddol o £30 i’w newid. Dim ond ar gyfer dyddiad arall o fewn yr un flwyddyn galendr y gellir newid dyddiad eich gwyliau, mae newid i ddyddiad yn y  flwyddyn ganlynol yn cael ei drin fel eich bod yn canslo, fel uchod. Ni ellir gwneud newidiadau i'r dyddiad archebu o fewn y pedair wythnos cyn eich dyddiad cyrraedd, pe baech yn dymuno newid dyddiadau eich gwyliau yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn cael ei drin fel eich bod yn canslo, fel uchod.

 

Ni fydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn codi unrhyw dâl ar ymwelwyr sy'n methu dychwelyd i'r tir mawr oherwydd oedi wrth groesi neu dywydd garw.

Os bydd eich llety ar gael, a’ch bod yn dymuno ymestyn eich ymweliad gohiriedig, codir tâl arnoch am unrhyw ddiwrnodau ychwanegol yn eich llety - dim ond os mae’r cwch yn croesi fel yr arfer ar eich dyddiad gadael y mae hyn yn berthnasol. Mae'r ffi hon yn daladwy tra byddwch ar yr ynys.

Yswiriant

Mae croesi i Enlli yn dibynnu i raddau helaeth ar y tywydd ac o bryd i'w gilydd mae angen gohirio teithiau. Pan fydd hyn yn digwydd ni fydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn gyfrifol am unrhyw ad-daliad nag iawndal. 


Os byddwch yn cael eich gorfodi i ganslo eich ymweliad ag Enlli am unrhyw reswm, yn cynnwys tywydd garw, ni fydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn atebol am golled o dan unrhyw amgylchiadau.

 

Cynghorir ymwelwyr i drefnu eu hyswiriant canslo eu hunain er mwyn diogelu rhag achos o salwch neu ddigwyddiad yswiriadwy arall.

Nid ydym yn disgwyl y bydd yn rhaid i ni wneud newidiadau i’ch archeb, ond weithiau bydd problemau’n codi, ac efallai y bydd yn rhaid i ni newid neu ganslo eich archeb. Os byddwn yn cael ein gorfodi i ganslo eich archeb, byddwn yn ad-dalu'r arian rydych wedi'i dalu i ni yn llawn ac ni fydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli Cyf yn atebol am unrhyw golled arall o arian a gafwyd gennych chi.

Pethau hanfodol - Beth ddylech chi fynd gyda chi?

Dylech gludo cyn lleied â phosib o fagiau os gwelwch yn dda gan nad oes cymaint â hynny o le yn y cwch. Gofynnir i chi bacio pob dim mewn parseli bach sy’n hawdd eu trin a sicrhau eu bod wedi eu selio ac yn dal dŵr (cynwysyddion neu lapio mewn plastig) ac wedi eu pacio’n dda. Dylech nodi enw’r tŷ lle byddwch yn aros yn glir ar bob darn o eiddo. Fe all bagiau heb eu henwi gael eu dal yn ôl neu fynd ar goll.

 

Gwnewch yn siŵr i ddod â'r canlynol ar gyfer eich wythnos:

  • Esgidiau a dillad ar gyfer pob tywydd

  • Gorchudd cwilt ar gyfer bob gwely (mae cwilt ar bob gwely yma yn barod i chi) 

  • Cynfas a chasys gobennydd

  • Pyjamas cynnes, gan nad oes gwres yn yr ystafelloedd gwely

  • Llieiniau ac offer ymolchi

  • Llieiniau sychu llestri

  • Fflachlamp dda a batris sbâr - ni chaniateir defnyddio canhwyllau na "tea lights"

Pwysig

  • Paciwch eich bagiau mewn bocsys a bagiau bychain, wedi eu selio.

  • Meddyginiaeth - os ydych yn defnyddio unrhyw feddyginiaeth, dylech sicrhau eich bod yn dod â chyflenwad ychwanegol i barhau am o leiaf wythnos arall.

  • O ran bwyd a diod, dewch â mwy nag sydd ei angen arnoch ar gyfer eich gwyliau, er nid oes angen i chi ddod a dŵr (heblaw ein bod yn cysylltu efo i chi, ar adegau tywydd sych iawn) oherwydd yn achlysurol fe all y tywydd rwystro’r cwch rhag croesi ar y diwrnod a drefnwyd. Nid oes siop fwyd ar yr ynys, dim ond beth sydd ar werth yn y fferm - gweler isod.

Offer ychwanegol
Yn naturiol, mae pen draw i faint o fagiau y gellir eu cludo ar y cwch. Fodd bynnag, fe all y canlynol ychwanegu at eich profiad ar Enlli:

  • Ysbienddrych

  • Deunyddiau celf

  • Gwialen bysgota / abwyd

  • Offerynnau cerddorol (heb fod yn rhy fawr!)

  • Camera a batris sbâr - ni chaniateir ffotograffiaeth fasnachol heb ganiatâd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.

  • Ffôn symudol - Dylech fod yn ymwybodol nad oes fawr o signal ffôn ar Enlli. Weithiau fe gewch signal ffôn symudol o Iwerddon all fod yn ddrud. Cewch signal ffôn 4G EE (y gorau) a Vodafone mewn rhai mannau ar yr ynys. Cofiwch nad oes trydan i ail-lenwi eich ffôn symudol ar yr ynys.

  • Gwifrwr batri solar ar gyfer ffôn symudol neu dablet.

Nid yw Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn cynghori pobl i hwylio, caiac neu nofio o gwmpas arfordir Enlli gan fod yr adlif yn gryf a peryglus. Mae unrhyw un o'r gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal ar eich menter eich hun.

Nid yw Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn caniatáu hedfan drôn, ddarllenwch Bolisi Drôn Ymddiriedolaeth Ynys Enlli am fwy o fanylion. 

Fferm a ChaffiTŷ Pellaf, Enlli

Mae'r caffi, sy'n cael ei redeg gan y teulu Roberts, yn cynnig diodydd, yn ogystal â hufen ia, byrbrydau a chacennau cartref amrywiol bob dydd.

Mae gan Dŷ Pellaf drwydded i werthu alcohol, sy’n lleihau'r angen i ddod â chyflenwadau gyda chi. Gweler y rhesr a phrisiau yma. Mae brecwast llawn, yn enwedig ar ddiwrnodau ymadael ar gael, ar adeg sy'n gyfleus i chi. Mae’r caffi hefyd yn cynnig prydau gyda'r nos neu tecawê ar nosweithiau penodol yn ogystal â noson caws a gwin unwaith yr wythnos! Cysylltwch am ragor o wybodaeth.

Mae'r teulu yn gobeithio y bydd hyn yn gwella'ch profiad a'ch mwynhad o'r ynys. Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig neu os ydych chi eisiau rhywbeth hollol wahanol, cysylltwch i drafod eich anghenion. Bydd gwasanaethau amrywiol yn cael eu hysbysebu ar yr ynys yn wythnosol.

 

Os oes angen mwy o fanylion arnoch neu wybodaeth benodol, cysylltwch â Thŷ Pellaf; bydd rhoi gwybod ymlaen llaw am eich gofynion yn helpu'r caffi i baratoi eich archeb.

Yn ogystal â'r caffi, bydd y fferm yn gwerthu wyau ffres, llysiau tymhorol, crancod a chimychiaid wedi'u berwi neu ffres yn syth oddi ar y cwch, eto cysylltwch ymlaen llaw i ofyn beth sydd ar gael ac i archebu.

I gysylltu â Chaffi Tŷ Pellaf, ffoniwch 07535 064943 neu e-bostiwch wgroberts@hotmail.co.uk

Pethau Hanfodol
Canslo
Parcio
Manylion y llety
bottom of page