top of page

 Enlli

Mae Ynys Enlli yn llawn o fywyd gwyllt, arfordir dramatig a dros 4,000 o flynyddoedd o hanes diddorol. Mae yma ddigon i'w ddarganfod os ydych yn ymweld am y dydd neu am wythnos o wyliau ar yr ynys unigryw hon. 

Saif Ynys Enlli tua 2 filltir (3 cilomedr) ar draws y swnt o Benrhyn Llŷn, Gogledd Cymru.

 

Mae’r ynys yn 1.5 milltir (2.5 cilomedr) o hyd ac, ar ei man lletaf, mae’n ychydig dros hanner milltir (1 cilomedr). Uchder Mynydd Enlli yw 167 metr ac mae arwynebedd o 180 hectar i'r ynys, y rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hamaethu.

 

Prynwyd yr ynys gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ym 1979 ac fe’i rheolir gan yr Ymddiriedolaeth gyda chyngor Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW. Dynodwyd yr ynys yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac fe saif o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Mae'r ynys hefyd o bwysigrwydd rhyngwladol ac wedi ei rhestru fel Ardal Cadwraeth Arbennig oherwydd ei chynefinoedd a'i rhywogaethau yn ogystal ag Ardal Gwarchodaeth Arbennig oherwydd yr adar sy'n nythu yma.

Mae gan yr ynys ei hud a'i lledrith ei hun, ac mae pobl wedi eu denu yma ers canrifoedd. Dewch draw i gael eich hudo eleni. 

HLF Welsh_Made_possible_logo_colour_JPEG.jpg
Partneriaid


Mae ein prosiect cyfredol (2021) 'Adeiladu Dyfodol Gwyrdd i Ynys Enlli' yn bosibl gyda chymorth gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Gyda diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sydd wedi galluogi i ni ddatblygu cynllun rheoli cynhwysfawr sy'n cyfleu ymrwymiad ac uchelgais pawb sy'n ymwneud â sicrhau dyfodol i'r ynys.

Afal Enlli
 
 
Dysgwch mwy ynglyn â phrynu coeden afal Enlli eich hun.
Hanes
 
Dysgwch am hanes diddorol Enlli a pham y caiff ei hadnabod fel ynys yr 20,000 o seintiau.
 
Byd Natur
 
 
Dysgwch fwy am fyd natur unigryw ac amrywiol Enlli
bottom of page