Ysbrydolrwydd yr Ynys
Mae Ynys Enlli (neu ynys 'y lli mawr'), yn
ganolfan bererindota ag iddi le hynod bwysig yn
hanes crefyddol Cymru ac mae'n dal i swyno pobl
heddiw. Gall ymwelwyr a'r ynys weld olion gwasgarog
abaty'r Canoniaid Awgwstinaidd o'r drydedd ganrif
ar ddeg a godwyd ar sylfeini'r hen sefydliad Celtaidd
o'r chweched ganrif. Mae'r twr di-do wedi'i addasu
ar gyfer grwpiau bach sydd eisiau addoli'n anffurfiol
yn yr awyr agored. Mae un o'r croesau celtaidd
gerllaw yn coffau'r ychydig sydd bellach yn weladwy
o'r gorffennol crefyddol a'r nifer anferthol o
saint (20,000?) y dywedir sydd wedi'u claddu yma.
Codwyd capel ar yr ynys yn 1875 a mae'r adeilad
yn agored i bobl i'w ddefnyddio ar gyfer addoliad
a myfyrdod. Mae encilfeydd yn cael eu trefnu ar
yr ynys yn ystod yr haf, lle mae pobl o bob enwad,
a rhai sydd heb fod yn perthyn i enwad o gwbl,
yn dod ynghyd i ddyfnhau eu bywyd ysbrydol. Mae'r
ynys yn gyfle i'r pererinion gloriannu ac ailgyfeirio'u
bywydau o'r newydd, ac i ddarganfod hedd ac adnewyddiad
yn ei llonyddwch a'i dirgelion.
|