Dynodwyd Ynys Enlli yn Warchodfa
Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig.
Oherwydd ei bywyd gwyllt
mae hi’n
bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r
amrywiaeth eang o ddiddordeb arbennig yn cynnwys
adar, planhigion blodeuol prin, cennau, llysiau’r
afu a mwsoglau, glaswelltir arfordirol a rhostir,
silffoedd clogwyni’r môr a bywyd gwyllt
y môr.
Mae’n ffurfio rhan o sawl safle
mwy o amgylch arfordir y tir mawr a moroedd Penrhyn
Llŷn, sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol
oherwydd eu bywyd gwyllt rhagorol, yn enwedig eu
hadar, cynefinoedd clogwyni’r môr a
bywyd gwyllt y môr. Mae hyn yn peri bod cyfrifoldeb ar Ymddiriedolaeth
Ynys Enlli, fel perchnogion, a Chyngor Cefn Gwlad
Cymru (CCG), fel corff cynghori’r llywodraeth
ar gadwraeth bywyd gwyllt, i sicrhau bod bywyd
gwyllt yr ynys yn cael ei warchod ar gyfer y dyfodol.
Mae’r Ymddiriedolaeth a’r CCG, mewn
partneriaeth, wedi penodi Swyddog Maes a Chyswllt
yn y blynyddoedd diweddar i helpu pawb sydd yn
ymwneud ag Enlli i reoli’r ynys mewn dull
a fydd yn gofalu am y bywyd gwyllt ac a fydd hefyd
yn gymorth i bobl fwynhau a deall mwy am yr agwedd
arbennig hon o’r ynys.
Ar hyd y cyrion arfordirol, mae blodau serennyn
y gwanwyn yn ffurfio carpedi glas yn y gwanwyn.
Wedi iddo ddarfod daw twmpathau trwchus o glustog
Mair a chlystyrau o deim, ac ymhellach ymlaen,
clychau’r grug a grug y mêl. Ymysg
y planhigion mwyaf prin mae meillionen y gorllewin
a thafod y neidr bach. Ymysg y planhigion mwyaf
nodedig mae’r cennau gydag amrywiaeth o fwy
na 350 rhywogaeth yn tyfu ar Enlli.
Mae’r morloi llwyd yn olygfa gyfarwydd ym
maeau creigiog yr ynys ac mae nifer fechan yn magu
yma bob blwyddyn.
Sefydlwyd Gwylfa Adar a Maes Ynys Enlli ym 1953.
Saif yr ynys ar lwybrau ymfudo llawer o adar yn
y gwanwyn a’r haf ac mae’n gartref
i frain coesgoch a phiod môr; yma hefyd gwelir
y crëyr glas, yr hebog tramor, tinwen y garn,
telorion a’r dylluan fach, yn ogystal ag
adar môr fel yr hugan, y llurs a’r
fulfran werdd. Yn ôl tystiolaeth ddiweddar
mae’n debyg fod y pâl yn dechrau nythu
ar yr ynys hefyd.
Mae’r moroedd o amgylch yr ynys, gyda’u
fforestydd o wymon strap, yn llawn o fywyd gwyllt.
Yn y pyllau creigiog gwelir buchod coch, crancod
a physgod bychan ac yn y dyfroedd dyfnach, bwydwyr
hidlo megis sbyngau a chwistrelli môr yn
crwydro’r creigiau. Mae un rhywogaeth oddi
ar y lan, yr anemoni môr melyn, yn fwy cyffredin
ym Môr y Canoldir. Yn aml gwelir dolffiniaid
Risso a llamhidyddion harbwr yn y dyfroedd oddi
ar yr ynys.
|