Mae Enlli yn nodedig fel
cyrchfan pererinion ers dyddiau cynnar Cristionogaeth,
ond mae arwyddion aneddiadau ar yr ynys sy’n
dyddio o gyfnodau cynt.
Daeth yn fan pwysig i’r
Eglwys Gristionogol Geltaidd gan ddenu mynaich
defodol, a chredir mai Sant Cadfan a ddechreuodd
adeiladu’r mynachdy yn y chweched ganrif.
 |
| Darlun
trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Gwelir
adfeilion Abaty Awstinaidd y Santes Fair, a adeiladwyd
ar yr ynys yn y drydedd
ganrif ar
ddeg, hyd y dydd heddiw. Defnyddiwyd y mynachdy
hyd gyfnod Diddymu’r Mynachlogydd ym 1537.
Wedi hyn gadawyd Enlli i’r môrladron
nes sefydlu cymuned o amaethwyr a physgotwyr yng
nghanol y ddeunawfed ganrif. Mae’r cyfeiriad
adnabyddus at yr ynys fel man claddu ugain mil
o saint yn dyddio o ddyddiau cynnar y canol oesoedd,
a dywedid bryd hynny bod tair pererindod i Enlli
gyfwerth ag un pererindod i Rufain.
Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r tai a saif yno
heddiw gan y tirfeddiannwr, yr Arglwydd Niwbwrch,
yn yr 1870au. Yr eithriad yw Carreg Bach sy’n
nodweddiadol, mae’n debyg, o’r tai
ar yr ynys cyn yr adeiladu yn y bedwaredd ganrif
ar bymtheg. Adeiladwyd capel anghydffurfiol newydd
yr un pryd.
Cwblhawyd y goleudy 30 metr – y goleudy
talaf yn y DU gyda thwr sgwâr – ym
1821. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd
poblogaeth yr ynys oddeutu 100 ond ym 1925 arweiniwyd
y rhan fwyaf o’r trigolion i’r tir
mawr gan Love Pritchard, Brenin Enlli (rhoddwyd
y teitl i arweinwyr y gymuned gan Arglwydd Niwbwrch),
i chwilio am ffordd haws o fyw. Yn fuan wedyn cyrhaeddodd
trigolion newydd, gan ennill bywoliaeth yn bennaf
drwy amaethu a physgota. Agorwyd yr Wylfa Adar
ym 1953, a phrynwyd yr ynys gan Ymddiriedolaeth
Ynys Enlli ym 1979.
|