Mae amaethu wedi bod yn nodwedd o’r ynys
ers y cyfnodau cynharaf. Credir mai adeiladau at
ddefnydd amaethyddol yw rhai o’r gweddillion
canoloesol.
Erbyn hyn mae’r Ymddiriedolaeth yn penodi
ffermwyr sy’n denantiaid i fod yn gyfrifol
am reoli’r ynys. Mae’r Ymddiriedolaeth,
y ffermwyr sy’n denantiaid a’r Cyngor
Cefn Gwlad yn cydweithio’n agos i sicrhau
bod y tir yn cael ei reoli fel ei fod yn cynnal
yr amgylchedd hanfodol ar gyfer blodau ac anifeiliaid
arbennig Enlli. Mae’r cynnydd yn cael ei
fonitro’n ofalus a rhoir ystyriaeth i unrhyw
newidiadau – oherwydd diflaniad y cwningod
ym 1996 roedd angen mwy o bori i warchod y cynefinoedd.
Mae yma ddiadell fagu o ddefaid cymysg yn bennaf
a Gwartheg Duon Cymreig, a gall ffermwyr ac eraill
sydd yn byw ar yr ynys gadw geifr, hwyaid, gwyddau,
tyrcwn a ieir. Mae ceirch, maip a swej – porthiant
gaeaf i’r da byw – yn annog chwyn âr
ac yn sicrhau cysgod a bwyd i adar sy’n byw
yma drwy gydol y flwyddyn ac adar ymfudol. Defnyddir
lleiafswm o wrtaith a gadewir tyfiant ar gyrion
caeau llydan heb ei dorri.
Mae pysgota yn parhau i fod yn bwysig. Mae’r
môr o amgylch yr ynys yn cael ei bysgota’n
rheolaidd am gimwch a chranc a werthir ar y tir
mawr.
Afal Enlli
Un o’r planhigion sy’n ymddangos fel
pe bai’n unigryw i Enlli yw’r goeden
afal sy’n tyfu ar ochr Plas Bach. Ym mis
Medi 2000, roedd un o’r gwylwyr adar a oedd
yn aros yn Cristin yn defnyddio afalau i ddenu
adar. Yn dilyn sgwrs rhwng yr adarydd ac ymwelydd
arall, Mr Ian Sturrock, gwnaed darganfyddiad cyffrous.
Deallodd Mr Sturrock, arbenigwr ar goed ffrwythau,
bod yr afalau yn dod o goeden gnotiog a cham ar
ochr ddeheuol Plas Bach. Er bod trigolion yr ynys
yn cadarnhau bod cenedlaethau o ynyswyr wedi mwynhau’r
afalau hyn, nid oedd neb yn gwybod pa fath o afalau
oeddynt. Roedd yn eithaf posib mai’r ffrwyth
pinc gydag arogl lemwn a blas amheuthun oedd yr
unig oroeswyr o berllan a oedd yn cael ei meithrin
ar y safle gan fynaich dros 1,000 o flynyddoedd
yn ôl.
“
Doeddwn i ddim yn adnabod yr afal, felly mi es
i â fo at arbenigwyr ar wahanol afalau Prydain – Brogdale
Horticultural Trust yng Nghaint”, meddai
Mr Sturrock.
Yno archwiliwyd yr afalau gan Dr Joan Morgan
a’i
datganiad hi oedd mai dyma afal prinnaf y byd.
Fe’i disgrifiodd fel afal gyda streipiau
pinc amlwg dros hufen, yn wrymiog a gyda chorun
uchel. Mae coed ifanc iach wedi eu tyfu o’r
goeden wreiddiol ac
ar werth erbyn hyn.
|