Artist preswyl
Cychwynodd y cynllun artist preswyl cyntaf ar y cyd â Chywaith Cymru ac Oriel Mostyn yn 1999.
Mae’r
artistiaid yn treulio sawl wythnos ar yr ynys ac
yn cynhyrchu gwaith a arddangosir yn ddiweddarach
ar y tir mawr.
Ymysg yr artistiaid preswyl
diweddar roedd:
| |
| Carole
Sherman 2006, 2007, 2008, 2009, 2010 |
| Susan
Adams 2002 |
| Clare
Barber 2001 |
| Ben
Stammers 2000 |
| Trudi
Entwistle 1999 |
| |
|
| Kim Atkinson - Llursod
1995 |
Llenor preswyl
Cynigiwyd llenor preswyl iaith Gymraeg am y tro cyntaf yn 2002 mewn cydweithrediad â’r
Academi Gymreig. Treuliodd Fflur Dafydd, bardd, awdur sgriptiau a cholofnydd,
chwech wythnos ar yr ynys yn gweithio ar gasgliad o farddoniaeth a rhyddiaith,
yn ogystal â chyfrannu sawl erthygl am ei chyfnod ar yr ynys i gylchgronau
a phapurau newydd Cymreig. Ysbrydolwyd ei drama ‘Hugo’, a gynhyrchwyd
gan Sgript Cymru, gan ei phrofiadau ar yr ynys.
| Brenda
Chamberlain |
Bu’r
arlunydd, yr awdur a bardd Brenda Chamberlain
yn byw yn Carreg rhwng 1947 ac 1962. Roedd
yn gyfnod hynod o gynhyrchiol yn ei bywyd.
Yn ystod y cyfnod hwn enillodd y Fedal Aur
am Gelf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.
Mae modd gweld rhai o’r murluniau a
beintiodd ar waliau Carreg hyd y dydd heddiw,
ac ysbrydolwyd amryw o’i pheintiadau
a’i lluniau gan yr ynys, yn ogystal â’i
nofel Tide Race, a ail-gyhoeddwyd gan Seren.
Tide Race: 1962, ailgyhoeddwyd gan Lyfrau Seren 1997
|
| Dilys
Cadwaladr |
| Treuliodd
Dilys Cadwaladr, y ferch gyntaf i ennill Coron
yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1953 am ei cherdd
hir, Y Llen, amryw o flynyddoedd ar Enlli yn
yr 1940au, yn ffermio ac athrawes i blant yr
ynys. |
| R S Thomas |
| R S Thomas
oedd ficer Aberdaron cyn ei ymddeoliad ym 1978,
pan symudodd filltir neu ddwy i lawr y ffordd
i bentref y Rhiw. Roedd ganddo gysylltiad agos â’r
ynys, yn enwedig yn nyddiau cynnar yr Ymddiriedolaeth. |
| Christine
Evans |
Mae’r
bardd Christine Evans wedi bod yn gysylltiedig â’r
ynys ers yr 1960au, pan briododd un o deulu
o ffermwyr olaf yr ynys. Mae hi a’i
theulu yn byw ac yn gweithio ar yr ynys am
ran helaeth o’r flwyddyn. Mae hi wedi
dysgu Cymraeg. Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi:
Looking Inland, Falling Back, Cometary Phases,
Island of Dark Horses, sy’n seiliedig
ar ei bywyd ar Enlli, a Dreaming the Candle.
Mae ambell i ymwelydd yn cael y fraint o glywed Christine yn traddodi ei barddoniaeth
yn yr ysgol ar yr ynys yn ystod yr haf.
Island of Dark Horses: Llyfrau Seren 1995
|
| Kim Atkinson |
| Bu’r
arlunydd bywyd gwyllt, Kim Atkinson, yn byw
ar yr ynys am saith mlynedd cyntaf ei hoes
ac yna unwaith yn rhagor yn yr 1980au a’r
1990au. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos
ar hyd a lled Cymru a Lloegr ac oherwydd ei
henw da fel artist cafodd ei gwahodd i weithio
mewn llawer rhan o’r byd gan gynnwys
Awstralia a Gwlad Pwyl. Mae delweddau nodweddiadol
Kim i’w gweld ar lawer o’r nwyddau
a werthir yn y siop. |
Noddwyr Ymddiriedolaeth Ynys
Enlli
Adlewyrchir cysylltiad cryf
Enlli gyda’r celfyddydau yn ei noddwyr –
mae’r canwr opera Bryn Terfel, gwneuthurwr
ffilm Peter Greenaway i gyd yn cefnogi gwaith
yr Ymddiriedolaeth.
|