Yr Ynys
Yr Ymddiriedolaeth
Gwibdaeithiau
Aros ar Enlli
newyddion
siop
CysylltuEnglish
Ynys Enlli - Bardsey Island
 

 

Ymunwch â’r Ymddiriedolaeth
Gwnewch eich rhan i sicrhau dyfodol tymor hir yr ynys – ac arbed arian ar eich gwyliau!

rhagor o wybodaeth

.....................................................

 

Adran Aelodau’r Ymddiriedolaeth

ewch i mewn yma

.....................................................

 

Aros ar Ynys Enlli!
Yr holl wybodaeth angenrheidiol am wyliau wythnos ac ymweliadau dydd.

rhagor o wybodaeth

.....................................................

 

Afal Enlli
Tyfwch goeden afal arbennig Enlli. Rhywbeth i’ch atgoffa o Enlli yn eich gardd eich hunan.

rhagor o wybodaeth

.....................................................

 

 

 
 

 

Cyfle arbennig.

Yn gynnar ym mis Medi 2000, roedd un o’r gwylwyr adar a oedd yn aros yn Cristin yn defnyddio afalau i ddenu adar. Yn dilyn sgwrs rhwng yr adarydd ac ymwelydd arall, Mr Ian Sturrock, gwnaed darganfyddiad cyffrous.

Deallodd Mr Sturrock, arbenigwr ar goed ffrwythau, bod yr afalau yn dod o goeden gnotiog a cham ar ochr ddeheuol Plas Bach. Er bod trigolion yr ynys yn cadarnhau bod cenedlaethau o ynyswyr wedi mwynhau’r afalau hyn, nid oedd neb yn gwybod pa fath o afalau oeddynt. Roedd yn eithaf posib mai’r ffrwyth pinc gydag arogl lemwn a blas amheuthun oedd yr unig oroeswyr o berllan a oedd yn cael ei meithrin ar y safle gan fynaich dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl.

Sylweddolodd Mr Sturrock bod yr afal yn un anghyffredin. “Doeddwn i ddim yn ei adnabod, felly mi es i â fo at arbenigwyr ar wahanol afalau Prydain – Brogdale Horticultural Trust yng Nghaint”, meddai Mr Sturrock.

Yno archwiliwyd yr afalau gan Dr Joan Morgan, un o brif arbenigwyr afalau Prydain, a’i datganiad hi oedd mai dyma afal prinnaf y byd. Fe’i disgrifiodd fel afal gyda streipiau pinc amlwg dros hufen, yn wrymiog a gyda chorun uchel.

Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth ofyn i Mr Sturrock gymryd toriadau o’r goeden y gwanwyn canlynol i’n galluogi i dyfu mwy o’r coed unigryw hyn.

Cliciwch yma i ddarllen y newyddion diweddaraf

 

Eich coeden afalau eich hun
Os hoffech brynu coeden afal Enlli, ffoniwch:
01248 371573

 


Dylunio a gwaith cynnal gan WiSS

Swyddfa Enlli, Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7TT Rhif Ffôn: 08458 11 22 33