<%@LANGUAGE="VBSCRIPT" CODEPAGE="1252"%> Sut i Archebu Gwyliau - Ynys Enlli

Sut i logi

Dewisiwch dŷ addas gan sicrhau ei fod ar gael trwy gysylltu â Swyddfa’r Ymddiriedolaeth unai trwy ffonio 08458 11 22 33 yn ystod oriau gwaith, trwy e-bost ar post@enlli.org neu drwy’r post i:

Swyddfa Enlli
Plas Glyn-y-Weddw
Llanbedrog
Pwllheli
Gwynedd
LL53 7TT

  • Gallwch logi dros dro ar unrhyw adeg.
  • Pe llogi’r cyn Ionawr 1 af gofynnwn am flaendal o £100 (am bob wythnos a logir) o fewn 10 diwrnod gwaith i sicrhau eich lle. Gofynnwn wedyn am eich ffurflen gais wedi ei chwblhau a blaendal o 50% o gyfanswm cost eich gwyliau Os na dderbynir hyn, ceidw Y.Y.E.C. yr hawl i ail-osod yr wythnos(au) logwyd.
  • Pe llogir ar ôl Ionawr 1 af, rydym angen eich ffurflen gais wedi ei chwblhau a blaendal o 50% o gyfanwm cost eich gwyliau o fewn 10 diwrnod gwaith er mwyn sicrhau eich llety. Os na dderbynir hyn, ceidw Y.Y.E.C. yr hawl i ail-osod yr wythnos(au) logwyd.
  • Cadarnheir eich bod wedi llogi unwaith y derbynnir eich ffurflen gais a’r blaendal.
  • Os yn llogi ymhell ymlaen llaw, mae’r balans yn daladwy dim hwyrach na 12 wythnos cyn cychwyn eich gwyliau. Os ydych yn llogi o fewn 12 wythnos i adael, yna rhaid talu’r rhent yn llawn. Ceidw Y.Y.E.C. yr hawl i ail-osod os na thelir y balans mewn pryd.
  • Rhaid hysbysu Y.Y.E.C. o unrhyw ohiriad trwy ebost ne lythyr. Tra gwneir pob ymdrech i ail-osod y llety ceidw Y.Y.E.C. yr hawl i gadw pob blaendal a delir rhag i hynny beidio digwydd. Pe ail-osodir yna bydd Y.Y.E.C. yn ad-dalu 50% o’r blaendal.
  • Y man gadael yw Borth Meudwy. Codir tâl o £15.00 yr wythnos am barcio ym Mhorth Meudwy ac yn daladwy i'r ffarmwr.
  • Lle bo hynny’n bosibl, dylid cynnwys enwau llawn pob aelod o’ch grŵp ar eich ffurflen llogi. Rhaid darparu hyn wyth wythnos cyn eich gwyliau fan bellaf.
  • Bydd Y.Y.E.C. yn anfon tocyn i’r grŵp deithio ar y cwch a tocyn parcio ar gyfer Fferm Cwrt os wedi’i archebu.
  • Am wybodaeth ynglyn â sut i ymaelodi, cysylltwch â Swyddfa’r Ymddiriedolaeth neu ewch at ein gwefan ar www.enlli.org .
  • Ni chaiff preswylwyr yn y tai fynd dim uwch na’r hyn a nodir yn y daflen hon.