Hwb i fywyd gwyllt ar Ynys Enlli

Mae cyfnod newydd o amaethu ar waith ar Ynys Enlli lle rhoir blaenoriaeth amlwg i fywyd gwyllt yr ynys.

Mewn datblygiad newydd sy'n sicrhau y bydd yr ynys yn cael ei ffermio'n effeithiol ar gyfer ei bywyd gwyllt, RSPB Cymru yw'r tenant amaethyddol newydd. Bydd yn cydweithio gydag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli mewn perthynas waith newydd i ddarparu cefnogaeth a chyngor ar y dulliau gorau i gynnal cynefinoedd ar gyfer adar a bywyd gwyllt arall sy'n byw ar yr ynys.

Perchennog yr ynys - a saif ychydig oddi ar Benrhyn Llyn - yw Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi cael ei ffermio gan gyfres o ffermwyr denantiaid a oedd am roi cynnig ar wneud bywoliaeth o'r fferm hardd ond ynysig hon.

Bellach mae RSPB Cymru yn cydweithio gyda'r ffermwr lleol Gareth Roberts a fydd yn ffermio'r ynys ac yn mynd i'r afael â'r gwaith ymarferol ar y tir. Meddai Gareth: "Dwi'n edrych ymlaen at y cyfle i wneud gwahaniaeth ar yr ynys."

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sy'n cydweithio'n agos gyda RSPB Cymru, wedi dynodi'r ynys fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Mae hi'n darparu cynefin hanfodol ar gyfer ystod o fywyd gwyllt yn cynnwys rhywogaethau allweddol o adar yng Nghymru fel y frân goesgoch - yr aelod mwyaf prin o deulu'r brain. Mae Cymru'n arbennig o bwysig i'r frân goesgoch, ac mae oddeutu tri chwarter poblogaeth y DU yn byw yma.

Mae adar drycin Manaw hefyd yn adar pwysig sy'n nythu ar yr ynys. Mae dros hanner poblogaeth y byd o adar drycin Manaw yn nythu yma yng Nghymru, ac mae hyd at 16,000 pâr ar Ynys Enlli pan fo'r tymor nythu ar ei anterth.

Meddai Richard Farmer, Prif Reolwr Gwarchodfeydd RSPB Cymru: 'Mae'r ynys yn fan arbennig i lawer o bobl, ac mae bywyd gwyllt yn rhan hanfodol ohoni, yn ogystal â'i hanes a'i diwylliant. Mae'n fendigedig bod Ymddiriedolaeth Ynys Enlli a RSPB Cymru yn gallu cydweithio i gynnal yr ynys fel cynefin hanfodol i fywyd gwyllt.'

Meddai Michael Francis, Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli: 'Dros y flwyddyn ddiwethaf sefydlwyd dealltwriaeth ardderchog a pherthynas waith dda gyda RSPB Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at weld hyn yn parhau.'

Mae ymwelwyr yn gallu croesi i Ynys Enlli yn ystod misoedd yr haf ac mae llety ar gael ar yr ynys. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.enlli.org

-------------------------------------------------

Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â
Wendy Johnson, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru 029 2035 3007 /
07816 938977
Delweddau: I dderbyn delweddau o Ynys Enlli neu o'r bywyd gwyllt sy'n byw yma, cysylltwch ag Wendy Johnson ar y rhifau uchod.

Nodiadau i Olygyddion:

" Am ragor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Ynys Enlli, cysylltwch â John Griffith (01758) 741001 neu ewch i www.bardsey.org

" Saif Ynys Enlli oddeutu dwy filltir oddi ar Benrhyn Llyn. Mae hi'n filltir a hanner o hyd ac ychydig dros hanner milltir o led ar ei man lletaf. Prynwyd yr ynys ym 1979 gan Ymddiriedolaeth Ynys Enlli ac fe'i rheolir ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a CADW. Mae hi'n Warchodfa Natur Genedlaethol, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn rhan o Ardal Amgylcheddol Sensitif Ll?n. Gwelir morloi llwyd yr Atlantig ym maeau creigiog yr ynys ac mae poblogaeth fechan yn magu ar Ynys Enlli bob blwyddyn.

" Brain coesgoch yw canolbwynt cynllun 'Tydy adar yn wych!' yr RSPB yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, sydd ar agor o ddydd Sadwrn 19 Ebrill. Bydd yn galluogi ymwelwyr i weld lluniau byw o gamera a osodir ar nyth brân coesgoch ymhell o dan y ddaear. Am ragor o wybodaeth am y project hwn, ymwelwch â www.rspb.org.uk/brilliant.

Pencadlys RSPB Cymru
" Ty Sutherland " Pont y Castell " Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
CAERDYDD CF11 9AB
Rhif ffôn y wasg 029 2035 3011/029 2035 3007
Oriau oddi allan i'r swyddfa a symudol 07747 475471/ 07816 938977
Ebost Cymru@rspb.org.uk
Mae pob datganiad diweddar i'r wasg i'w gael ar dudalennau 'canolfan gyfryngol' ein gwefan ar: www.rspb.org.uk/wales
Elusen gofrestredig Lloegr a Chymru rhif 207076, Yr Alban rhif SCO37654